HomeSearch › Job

Swyddog Digidol a Chyfryngau Cymdeithasol

Isle of Anglesey County Council

Llangefni, , UK

Job at a glance

Llangefni, , UK
Location
Isle of Anglesey County Council
Employer

Bydd y dolenni hyn yn agor tab newydd yn eich porwr. Swyddog Digidol a Chyfryngau Cymdeithasol Mae Ynys Môn yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae’n ymwneud â gwella bywydau’r bobl sy’n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol â ninnau, sy’n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd â meddylfryd byd busnes, sy’n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu’r safonau uchaf posibl.

Ein nod yw creu Ynys Môn sy’n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu. Mae ein llwyddiant yn dibynnu ar y bobl rydyn ni’n eu cyflogi, ac rydym wedi ymrwymo i werthfawrogi ein tîm. Rydym yn cynnig mwy na chyflog yn unig, felly edrychwch ar rai o’r buddion y gallwn eu cynnig i’n staff:Buddion o weithio i Gyngor Sir Ynys Môn Pwrpas cyffredinol y swydd Dyma gyfle i unigolyn creadigol, arloesol a chymwys ymuno ag Uned Gyfathrebiadau Cyngor Sir Ynys Môn.

O fewn eich rôl fel swyddog digidol a chyfryngau cymdeithasol, byddwch yn gweithio fel aelod o Uned Gyfathrebiadau brysur. Byddwch yn gweithio gyda chydweithwyr er mwyn cyflawni nodau ac amcanion yr Uned Gyfathrebiadau, fel y nodir yn unol â’r cynllun cyfathrebu strategol, yn ogystal â hyrwyddo gweledigaeth, amcanion a gwerthoedd Cynllun y Cyngor. Byddwch yn chwarae rôl hanfodol o ran diweddaru a monitro sianelau cyfryngau cymdeithasol corfforaethol Cyngor Sir Ynys Môn; darparu cymorth golygyddol ar gyfer cyhoeddiadau mewnol ac allanol a delio gyda’r wasg a’r cyfryngau’n ddyddiol.

Byddwch hefyd yn gyfrifol am wella ymgysylltiad a chynyddu nifer y bobl sy’n gweld ein sianelau cyfryngau cymdeithasol corfforaethol presennol; ac adrodd ar y ddwy agwedd hyn. Mwy o wybodaeth Gwelwch y swydd disgrifiad am mwy o gwybodaeth agofynion sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer y swydd hon. Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.

Atodir isod y disgrifiad swydd/manyleb person. Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a’r fanyleb person i’ch cyfrifiadur neu ar gof bach gan y bydd y dogfennau yn diflannu unwaith y bydd y swydd yn cau. Mae'r dogfennu atodedig ar gael yn y linciau. Bydd clicio ar linc dogfen yn cychwyn ei lawrlwytho. #J-18808-Ljbffr

Search all live jobs — free, no account →